Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Dydd Mawrth 16 Gorffennaf a dydd Mercher 17 Gorffennaf 2013

Toriad: Dydd Llun 22 Gorffennaf 2013 - Dydd Sul 22 Medi 2013

Dydd Mawrth 24 Medi a dydd Mercher 25 Medi 2013

Dydd Mawrth 1 Hydref a dydd Mercher 2 Hydref 2013

***********************************************************************

 

Dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2013

 

Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau pan ddaw Pwyllgor y Cynulliad Cyfan i ben

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (90 munud)

·         Rheoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau Canlyniadol) (Gofal Plant, Tai a Thrafnidiaeth)  (Cymru) 2013 (15 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol (15 munud)

·         Dadl: Y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2013-14 (30 munud)

 

Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr Ymchwiliad i Ddeddfu a’r Eglwys yng Nghymru (60 munud)

·         Cynnig i gymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

Busnes y Llywodraeth

·         Dadl Cyfnod 3 ar y Bil Sector Amaethyddol (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.44 (60 munud)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.  Os derbynnir y cynnig:

Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo Bil Sector Amaethyddol (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.47 (5 munud)

 

 

Dydd Mawrth 24 Medi 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas ag adfer perchnogaeth o dai annedd (15 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, gorchmynion ymddygiad troseddol a’r trothwy cymunedol (15 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â'r Fframwaith rheolaethau ariannol cyfalaf yn Rhan 1 Deddf Llywodraeth Leol 2003 i Brif Gwnstabliaid yng Nghymru (15 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â chyflwyno Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol, Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus, Hysbysiadau Cau a diwygiadau i Ddeddf Cŵn Peryglus 1991 (15 munud)

·         Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru) (60 munud)

·         Penderfyniad Ariannol mewn perthynas â'r Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru) (5 munud)

 

Dydd Mercher 25 Medi 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Geidwadwyr Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer (30 munud)

 

Dydd Mawrth 1 Hydref 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)

·         Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)

·         Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflwyno Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) (60 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Eiddo Deallusol (15 munud)

·         Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Teithio Llesol (Cymru) (90 munud)

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.  Os derbynnir y cynnig:

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo Bil Teithio Llesol (Cymru) (5 munud)

 

Dydd Mercher 2 Hydref 2013

 

Busnes y Llywodraeth

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)

·         Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

·         Amser a neilltuwyd i Geidwadwyr Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer (30 munud)